Yn diweddar sylweddolais bod nifer o ddigwyddiadau cwrw crefft yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd/de dwyrain Cymru yn ystod mis Medi. Wrth gwrs mae hyn yn wych. Wedyn, sylweddolais bod rhaid i chi chwilio ar nifer o wefannau gwahanol er mwyn dod o hyd i’r manylion. Doedd dim rhestr new ddyddiadur gyfun ar gael, felly penderyfynais ddechrau un.
Mae gan yr isod tuedd tueg at Gaerdydd, one hoffwn ymledu’r rhestr i gynnwys digwyddiadau ar ledle Cymru gyfun - felt danfona neges neu gysylltwch trwy Drydar gydag unrhyw ddigwyddiadau i’w ychwanegu!
Medi 1/2 - 12 canoldydd tan 11yh - Tiny Rebel Brewfest
Cynhaliwyd yn y Depot ar Heol Dumballs, Caerdydd. 25 bragdy o Gymru a thu hwnt gyda seidr ayyb ar gael yn o gystal a bwyd stryd. Digwyddiad enfawr gyda llawer o gwrw dda!
Medi 2 - 12 tan 10yh - PIPES Bar Agored
Digwyddiad misol sy’n hynod o boblogaidd. Cynhaliwyd yn y bragdy ar Heol Y Brenin, Caerdydd. Llu o gwrw Pipes ar dap gyda bwyd gan Standard Burgers and Fries.
Medi 6 - o 5yh - Gloucester Brewery Tap Takeover @ The Pen and Wig
Digwyddiad yn y tafarn sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr a gweithwyr lleol yn Park Grove, Caerdydd. Bydd 8 Cwrw Casg a 3 Cwrw Keg ar gael.
Medi 7 - o 7yh - Bluestone Brewing Tap Takeover @ St Canna’s Ale House
Digwyddiad gyda bragdy gwych o sir Penfro yn nhafarn-meicro llwyddianus St Cann’s, yn Nhreganna.
Medi 9 - 11yb tan 11yh - Taith Cwrw Gwir Sir Flint- sawl safle ar draws y sir
Taith bws o amgylch 8 safely, gyda bws pob 20 munud. Dewis o dros 50 cwrw ar y daith! Yn cynnwys Meicroffest gyda Deva Craft a Hafod!
Medi 14 - 6yh ymlaen - Stoutfest 2 @ Brewdog
Ail ffesitval stout gan Brewdog stout gyda stout gwych o draws y byd!!
Medi 15/16 - 12 tan 9yh- Lolffest2 @ Bragdy Twt Lol
Mae Bragdy Twt Lol yn cynnal ffestival yn arddangos eu cwrw yn y bragdy ar Ystad Diwydiannol Trefforest gyda bwyd ar y Dydd Sadwrn.
Medi 16, 23 & 30 - 6pm ymlaen - Oktoberfest experience @ St Canna’s Ale House
Tair Ddydd Sadwrn yn olynnol - bwyd a chwrw Almaenaidd!
Medi 21/22/23 - 11yb tan 11yh - Great Welsh Beer & Cider Festival 2017
Cynhaliwyd yn y Depot, Caerdydd, Dyma digwyddiad poblogaidd gyda dros 140 o gyrfau gwahanol a dros 60 seidr hefyd. Mi fydd bwyd stryd, cerddoriaeth a sesiynau “cwrdd a’r bragwyr” gyda nifer o fragwyr Cymreig.
Medi 23- 11yb to 11yh - Conwy Real Ale Trail
Taith gwych arall ar y bws, gyda nifer o dafarndai da a dwy fragdy ysgubol- Wild Horse a Chonwy!
Medi 28 - o 6yh - Stone Berlin Tap Takeover @ Brewdog
Digwyddiad tap takeover gyda bragdy byd enwog o afordir orllwrinol yr UDA, Stone Brewing gyda chwrw yn dod o’i safle bragu Ewropeaidd yn Berlin. Cyfle gwych i fwynhau Cwrw byd-enwog!
Comments
Post a Comment