Helo a chroeso i'r Blog Cwrw
Penderfynais ddechrau’r blog hwn pan sylweddolais does dim un blog iaith Gymraeg sy’n drafod cwrw crefft (hyd yr wn i). Mae cwrw crefft yn phenomenon byd-eang, a mae’n bosib eiflasu mewn bron pob wlad, a mae’n bosib darllen blogs am gwrw crefft yn nwsinau o ieithoedd. Felly pam na’r Gymraeg?
Mae’n bwysig nodi bod enw’r blog yn cynnwys “Cymreig” yn hytrach na “Chymraeg”. Er bod yr elfen ieithyddol ynbwysig, mae’r ochr diwylliannol, cymdeithasol ac hanesyddol o’r persbectif Cymreig hefyd yn bwysig, oherwydd mae gan Gymru sector Cwrw Crefft sydd wedi ffrwydo a ffynnu dros y flynyddoedd diwethaf.
Dyma ni felly. Beth fydd cynnwys a ffocws y blog? Wel, byddai’n croesawu syniadau, ond dyma rhai pethau byddai’n ceisio cynnwys:
• Bars a thafarndai cwrw crefft yn Nghymru. (Dwi’n bywyn Nghaerdydd, felly mi fydd, wrth gwrs tuedd at sefydliadau yfed yn y ddinas honno, mae’n flin gen i).
• Bragdai cwrw crefft Cymreig – gan gynnwys adolygiadau o gwrw.
• Trafodaeth ynglyn a chwrw crefft diddorol o du hwnt i Gymru… Os dof i ar draws cwrw da ar wyliau, byddai’n ceisio’i drafod yma.
• Trafodaeth ynglyn a steils gwahanol o gwrw.
• Unrhywbeth arall diddorol ynglyn a chwrw crefft.
Mae rhaid imi nodi cwpl o bwyntiau eraill:
• Ni fydd yr iaith wastad yn bur neu yn berffaith
• Byddai’n ceisio cadw’r mwyafrif o’r blogs yn gymharol byr (haws i’w hysgrifennu a haws i’w ddarllen!)
• Wrth gwrs, mae’r blog hwn yn annog defnydd alcohol synhwyrol, gan ddilyn argymhellion y GIG ynglyn a chyfaint dyddiol dyle pobl yfed.
Gobeithiaf fyddech chi’n mwynhau’r blog!
Comments
Post a Comment