Drycha, dyma pwnc dadleuol a chymleth. Mae’r
mwyafrif o fragwyr a phobl sy’n mwynhau cwrw yn anghytuno ynlgyn a difiniad, ac
mae llawer o bobl yn gwrthod bod angen unrhyw fath o ddifiniad o gwbl.
Wel, does dim gennyf deimladau angerddol fan hyn,
ond dwi’n meddwl bod diffiniad bras yn gallu bod yn help. Er enghraifft, mae
bragwyr crefft llwyddiannus o’r Alban Brewdog wedi awgrymu diffiniad eitha
ddefnyddiol fan hyn.
Ar y cyfan, dwi’n meddwl y brif bwyntiau sy’n
ddefnyddiol wrth feddwl am gwrw crefft yw:
Bod y bragdai yn gymharol bach o ran y cyfaint o
gwrw maent yn cynhyrchu, ac yn annibynol (h.y. dydy nhw ddim yn cael ei rheoli
gan bragdy enfawr.)
Ok, so dyna’r diffiniad bras byddai’n ceisio
defnyddio. Dyw hynny ddim yn ddiddorol iawn, felly dyma rhai nodweddion sy’n
aml yn berchyn i fragdai cwrw crefft (n.b. nid diffiniadau llym yw rhain, neu
reolau cadarn):
- · Mae gan y bragdai hunaniaeth lleol/rhanbarthol (dwi’n hoffi’r elfen hon oherwydd mae’n gysylltiad gyda hanes cwrw cyn i gwmnioedd mawrion dod i ddominyddu’r diwydiant.)
- · Mae ‘na “personoliaeth”penodol gyda’r bragdai a’r cwrw – h.y. brandiau diddorol, straeon tu ol i’r cwrw, ac ymdrech i ddatblygu hunaniaeth a phersonaliaeth unigryw i’r bragdy.
- · Mae blas yn bwysig. Wrth gwrs, nid yw pob cwrw crefft yn dda neu yn flasus (a hefyd, mae’n bwysig nodi mae “blas” yn cysyniad hynod o bersonol a goddrychol), ond mae ymdrech at ddatblygu blas (a thrwyn) diddorol yn aml yn nodweddiadol o gwrw crefft.
Yn syml, dyma rhai o’r rhesymau rydw i’n mwynhau cwrw
crefft. Dyw diffiniadau diflas ynglyn a chwrw crefft ddim yn hwyl, ond mae’r
nodweddion sy’n berchyn i gwrw crefft yn hynod o hwylus!
Comments
Post a Comment