Yn diweddar sylweddolais bod nifer o ddigwyddiadau cwrw crefft yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd/de dwyrain Cymru yn ystod mis Medi. Wrth gwrs mae hyn yn wych. Wedyn, sylweddolais bod rhaid i chi chwilio ar nifer o wefannau gwahanol er mwyn dod o hyd i’r manylion. Doedd dim rhestr new ddyddiadur gyfun ar gael, felly penderyfynais ddechrau un. Mae gan yr isod tuedd tueg at Gaerdydd, one hoffwn ymledu’r rhestr i gynnwys digwyddiadau ar ledle Cymru gyfun - felt danfona neges neu gysylltwch trwy Drydar gydag unrhyw ddigwyddiadau i’w ychwanegu! Medi 1/2 - 12 canoldydd tan 11yh - Tiny Rebel Brewfest Cynhaliwyd yn y Depot ar Heol Dumballs, Caerdydd. 25 bragdy o Gymru a thu hwnt gyda seidr ayyb ar gael yn o gystal a bwyd stryd. Digwyddiad enfawr gyda llawer o gwrw dda! Medi 2 - 12 tan 10yh - PIPES Bar Agored Digwyddiad misol sy’n hynod o boblogaidd. Cynhaliwyd yn y bragdy ar Heol Y Brenin, Caerdydd. Llu o gwrw Pipes ar dap gyda bwyd gan Standard Burgers and Fries. Medi...
A bilingual blog that discusses craft beer, especially Welsh craft beer. Follow on twitter:
https://twitter.com/yblogcwrw
Blog dwyieithog sy'n trafod cwrw crefft, yn enwedig cwrw crefft Cymreig. Dilynwch ar drydar:
https://twitter.com/yblogcwrw