Skip to main content

Sesiwn Blasu #1 - Tasting Session #1

Dyma’r “Sesiwn Blasu” cyntaf imi rhannu ar y blog. Pwrpas yr ethygl nodwedd hon yw i gynnig adolygiad o sawl cwrw crefft, gan ddisgrifio blas, arogl, ac efallai’r golwg a cheg-deimlad y cwrw. Penderfynais ysgrifennu postiau’r sesiynau blasu yn ddwyieithog er mwyn galluogi cynulleidfa ehangach (gan gynnwys bragwyr a thafarnwyr os oes diddordeb gyda nhw).

Yn y sesiwn cyntaf, byddai’n adolygu’r cyrfau canlynol:
1.       Export gan Bragdy Rhymney sef Cwrw Chwerw Seisnig
2.       Beyond the Pale gan Bragdy Mumbles sef Cwrw Euraidd yn ol y app untapped, ond dwi’n gweld hi mwy fel Pale Ale.
3.       Cwrw Haf gan Bragdy Grey Trees sef Cwrw Euraidd

Yn gyntaf, yr Export gan Rhymney
Yn fy marn i, dyma Cwrw Chwerw gwych. Mae ganddo’r holl nodweddion basech chi’n disgwyl o Gwrw Chwerw, gyda flas sy’n cael ei erwain gan y brag. Mae’r arogl yn  cynnwys mel melus, brag tostlyd, gyda bach o ffrwyth yn y cefndir. Mae elfen o mwg ymysg yr arogl hefyd, sy’n bleserus. Mae ceg-deimlad yn dda – ddim yn rhy llawn, a mae’r blas yn gytbwys gyda sbeis a brag melus. Mae gan orffeniad y cwrw cic chwerw dda. Dyma cwrw hynod o dda.

Yr ail mae Beyond the Pale gan Mumbles:
Dyma Pale Ale solid iawn. Mae’r trwyn yn ddiddorol gyda gwellt, nodau o flodau ac hint bach o ffrwyth melus, sy’n awgrymu palate adfywiol. Mae’r blas yn dilyn y trwyn gyda blodau a ffrwyth yn dod o’r hopys o Ogledd America. Mae nodyn bach melus ymysg y gorffeniad chwerw, sy’n neis. Dyma cwrw da ar gyfer diwrnod o heulwen.

Ac yn olaf mae’r Cwrw Haf gan Bragdy Grey Trees:
Dyma Cwrw Euraidd sy’n cael ei gynhyrchu’n arbennig ar gyfer y tafarn poblogaidd (yn enwedig gyda Chymry Cymraeg) y Mochyn Du. Mwynhais y cwrw yn fawr iawn oherwydd roedd e’n esmwyth ond hefyd yn adfywiol. Mae’r palate yn cynnwys citrus gyda llawer o rawnffrwyth yn dod trwyddo, gyda tipyn bach o leim. Mae’r gorffeniad yn glan ac yn glir, sydd hefyd yn addas ar gyfer diwrnod o haf.

____________________________________________________________________________

This is my first “Tasting Session” blog post. The purpose of this feature is to present reviews of several craft beers, considering the nose, palate, and perhaps the look and mouthfeel of the beer. I decided to write these posts bilingually in order to enable engagement from a wider audience (including brewers and publicans, if they are interested).

In this first session, I’m reviewing the following beers:
1.       Export by Rhymney Brewery which is an English Bitter
2.       Beyond the Pale by Mumbles Brewery – untapped lists as a Golden Ale, but I’d say it’s more of a Pale Ale.
3.       Cwrw Haf by Grey Trees Brewery which is a Golden Ale

So first, the Rhymney Export:
In my opinion, this is an excellent bitter ale. It contains many characteristics expected of an English Bitter, with a malt-driven flavour. The nose has sweet honey, toasted malt and a hint of fruit in the background. There is a smoky undertone to the nose, which is very enticing. The mouthfeel is well-rounded – not too full, and the flavour is balanced with spices and sweet malt. The finish is satisfyingly bitter. This is a top-notch beer.

The second beer is Beyond the Pale by Mumbles:
This is a very solid Pale Ale. The nose is interesting, with straw, floral notes and a hint of sweet fruit implying a refreshing palate. The taste does follow through on this suggestion with floral and fruity notes emanating from North American hops. There’s a little sweet note on the bitter finish from the malt. All in all, a good beer for a warm day.

And the final beer is Cwrw Haf by Grey Trees Brewery:
This is a Golden Ale made exclusively for the popular Cardiff pub Y Mochyn Du. I really enjoyed this beer as it was both smooth and refreshing. The palate is citrusy with lots of grapefruit coming through along with a little bit of lime. The finish is clean and crisp, which is also ideal for a summer’s day.


Comments