Ychydig o flynyddoedd yn ôl,
cyhoeddwyd rhestr o’r 10 tafarndai gorau yng Nghaerdydd ar gyfer cwrw crefft.
Mae Walesonline hefyd wedi cynhyrchu cwpl o restrau tebyg, ond wrth gwrs mae
rhestrau fel hyn yn dod yn goroedol wrth i rai barrau cau tra i rai eraill
agor.
Pwrpas y post hwn yw i roi math o
“arweinlyfr” diweddar ynglŷn â thafarndau cwrw crefft yng Nghaerdydd. Rwyf wedi
penderfynu i beidio rhestru nhw mewn trefn penodol, neu i gynfyngu’r rhestr i
ond 10, oherwydd mae’n bwysig i geisio dangos y sefyllfa cwrw crefft llawn.
Dros y blynyddoedd diwetha, dwi wedi
ymweld â nifer o ddinasoedd yn y D.U., Ewrop a chwpl yng Ngogledd America. Dwi
wirioneddol yn credo bod Caerdydd yn cymharu’n dda iawn i ddinasoedd eraill o
ran cwrw crefft, ac yn sefyll allan fel un o’r goreuon yn Ewrop.
Cyn dechrau, un nodyn:
Does dim siopau ar y rhestr. Mae
nifer o siopao potel gwych yng Nghaerdydd, ond ffocws y post hwn yw tafarndau a
barrau.
St Canna's Alehouse
Tafarn newydd sy’n barod yn hynod o
boblogaidd, lleolwyd o fewn y chwarter cwrw crefft sy’n datblygu yng Nhreganna.
Dyma tafarn-meicro cyntaf yng Nghaerdydd. Mae’n lle diddorol a chroesawgar. Mae
dewis amrywiol o gwrw casg a barilan sy’n newid yn wythnosol, felly dyma lle
gwych i drio rhywbeth newydd. Mae’r tafarn yn arbennigo mewn cyrfau o Gymru, yn
aml yn cynnwys Pipes, Tiny Rebel, Tenby, Grey Trees, Lines, Well Drawn, Bluestone,
Mumbles, Kingstone, Mad Dog a llawer mwy!
Mae gan St Canna’s un o’r
landlordiaid mwyaf cyfeillgar yng Nghaerdydd. Mae gan y tafarn ci bach hwyl
hefyd. Dyma tafarn cynnes a swynol gyda rhwybeth gwahanol ar bob ymweliad.
Crafty Devil's Cellar
Dyma bar arall yng ngorllewin y dinas
yn Nhreganna. Dyma rhywle angenreidiol i ynweld os rydych chi’n hoff o gwrw
crefft. Yn gwreiddiol, siop potel gyda bar blasu oedd y tafarn, ond mae wedi
esblygu dros amser i fod yn bar gyda bach o siop. Dyma tafarn cynnes gyda dewis
da o gwrw lleol, sy’n fel arfer yn cynnig un neu ddau cwrw gwest hefyd. Mae
amryw gwych o botelau a chaniau. Dyma lle dda i ddarganfod rhywbeth newydd.
Mae cwrw Crafty Devil yn wastad o
safon uchel, gyda
Safe as Milk (stout), Mikey Rayer All
Dayer (pale ale) and You Love Us (American IPA) yn opsiynau da.
Tiny Rebel
Dyma bragdy a thafarn arloesol
Cymreig. Y tap-y-bragdy ar gyfer bragdy cwrw crefft Cymreig cyntaf yng
Nghaerdydd, gyda enw gwreiddiol “Urban Taphouse”. Lleolwyd o fewn adeilad coch
hardd cyferbyn Stadiwm Principality, dyma bar pwysig ar unrhyw daith cwrw
crefft o gwmpas. Mae llwyddiant y bar hwn wedi arwain at ail dafarn yn ninas
cartrefol Tiny Rebel – Casnewydd – a bar bach ym mragdy newydd y cwmni yn
Rogerstone. Mae gan yr adeiliad llawer o gymeriad gyda digonedd o le.
Mae wastad gan Tiny Rebel dewis cryf
o gwrw casg a barilan gyda nifer o gyrfau gwest. Mae cwrw Tiny Rebel yn dda
iawn, fel dangosir gan cyn-pencampwr Prydain Cwtch.
Brewdog
Jyst lan yr heol o Tiny Rebel, does
dim wir angen cyflwyno Brewdog. Mae bar Caerdydd y bragwyr crefft o’r Alban yn
3 mlwydd oed ac yn hynod o boblogaidd.
Yn aml mae’r bar yn cynnal
“tap-takeovers” gan fragdai eraill, a mae’r rhestr o gyrfau yn wastad yn
esblygu gyda chyrfau diddorol ac arloesol. O stowts cryfion, i IPAs llond
hopys, o gyrfay sur i lagers glan a phur, mae gan Brewdog rhywbeth i bawb, gan
gynnwys yr yfedwr mwy anturus!
Bragdy Pipes
Mae Bragdy Pipes yn sefydliad unigryw
o fewn y dinas. Lleolwyd yn ardal Pontcanna, mae’r bragdy yn cynnal digwyddiadau
“bar agored” yn fisol yng nghwrt y bragdy– ac yn fwy aml dros yr haf. Gyda
amryw eang o gyrfau ar gael, o stowts cyfoethog i lagerau ffresh, dyma lle da i
drio cyrfau gwahanol. Er nad yw hon yn lleoliad parhaol, mae’n haeddu ei lle ar
y rhestr.
Mae uchafbwyntiau yn cynnwys Bohemian
Pilsner, cwrw sur y Pineapple Weisse, a’r Californian Pale, ymysg nifer o
gyrfau gwych arall.
Y Cambrian Tap
Dyma tap y bragdy ar gyfer cangen
crefft y cawr mawr Brains. Bydd rhai yn teimlo nad yw hon yn “lleoliad cwrw
crefft go iawn”, ond ar y cyfan mae’r cwrw yn dda ac mae’n dafarn bach
croesawgar. Er bod Brains yn “fragdy mawr” erbyn heddiw, mae ei gwreiddiau yn
lleol, ac yn wir mae’r bragdy’n gyfystyr a Chaerdydd. Lleolwyd yn agos at galon
cwrw crefft Caerdydd (sef Westgate St), dyma lle da i ymweld am un neu ddau
peint.
Mae dewis da o gwrw Brains Craft ar
gael gyda rhai cyrfau gwest ar gael hefyd. Mae goreuon Brains Craft yn cynnwys Barry
Island IPA, Boilermaker (American IPA) ac Atlantic White Witbier.
Y Lansdowne
Tafarn gymunedol hyfryd yn ardal
Treganna. Mae’n werth teithio allan o ganol y dinas jyst i ymweld a’r dafarn
hon! Dyma hen dafarn sydd wedi cael bywyd newydd gyda pherchenogwyr newydd
(sydd hefyd yn berchen ar y Grange yn Grangetown).
Mae yna math o swyn hen ffasiwn syml i’r
dafarn hon. Mae’n cynnig bwyd gwych yn o gystal a chwrw bendigedig. Fel arfer
mae gyrfau lleol ar gael o Pipes a Crafty Devil, ac amryw o dapiau sy’n newid,
gyda chwrw o Gymru a thu hwnt ar gael. Rydym yn angen mwy tafarndau cymunedol
fel y Lansdowne.
Y City Arms
Dyma tafarn gwobrwyol sy’n berchen i
Brains, ond yn cynnig llawer mwy o gyrfau na tharfandai eraill Brains. Dyma
tafarn clasurol Caerdydd – ffefryn personol ar ddiwrnod rygbi personol – mae’n
dafarn o oes Fictoriaidd sydd wedi cadw ei phersonoliaeth.
Tafarn poblogaidd ar y “scene” cwrw
go iawn am nifer o flynyddoedd… Hynod o dda i ymweld, yn enwedig ar ddiwrnod
rygbi.
Smallbar
Seren bach newydd yng nghanol
Caerdydd. Sefydlwyd ychydig dros flwyddyn yn ol, ond yn barod yn hynod o
boblogaidd. Gyda 32 o dapiau rydych chi’n sicr o weld dewis eang, gyda’r
diod-len yn cynnwys dewis o gwrw sur, tywyll, lager, pale/IPA a “crazy shit”(!)
Mae rhywbeth i bawb yma, a mae’r
cyfeintiau bach (traean, hanner a dwy draean) yn annog chi i drio sawl cwrw
mewn ymweliad. Yn aml yn cynnig dewis da o gwrw Cymreig yn o gystal a chyrfau
da o Loegr, gyda Left Handed Giant yn nodweddol.
Hopbunker
Hopcraft/Pixie Spring Brewery sy’n
perchen y dafarn danddaearol hon. Mae dewis enfawr o gyrfau ar gael, o Gymru a
gweddill y DU. Mae’n hawdd gweld pam fo Hopbunker wedi ennill nifer o wobrau
CAMRA ers agor ychydig blynyddoedd yn ol. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys cyrfau
Hopcraft (wrth gwrs) ac unrhywbeth gan Waen (sy’n cynhyrchu ym mragdy
Hopcraft).
Lleolwyd yn cynd-clwb y Barfly, mae’r
lleoliad tanddaearol Hopbunker yn creu awyrgylch diddorol a gwahanol.
Canolfan Celfyddyd Chapter
Dyma tafarn Treganna arall gyda
detholiad newidol o gwrw Prydeinig. Dyw hyn ddim yn dafarn cwrw crefft per se, ac i ryw raddau mae wedi cwympo
tu ol i St Canna’s a Crafty Devil yn Nhreganna, ond mae’n bar digon da tybeth.
Mae ganddo detholiad eitha da o boteli, sy’n werth nodi.
Y Mochyn Du
Dyma arwr o dafarn ymysg cymuned
Cymry Cymraeg Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae’n cynnig nifer o opsiynau gwych o
ran cwrw crefft Cymreig, gan gynnwys Grey Trees, Pipes a Gower. Yn mis Ionawr
bydde’n ail agor o dan rheolaeth newydd fel “brewpub”.
Bydd rhaid aros i weld pa effaith
bydd hyn yn cael, ond gobeithiaf bydd y Mochyn yn cadw ei hunaniaeth Cymraeg.
I grynhoi, tafarn cyfeillgar sy’n
gynnes yn y gaeaf, ac yn braf yn ystod y haf.
Zerodegrees
Rhan o gadwyn o brewpubs ar draws
Prydain, sy’n gynnig dewis o gwrw a fragwyd ar y safle. Efallai bach llai o
gymeriad na thafarndai eraill ar y rhestr hon – er bod tu allan yr adeilad yn
hynod o hardd. Wedi dweud hynny, mae’r cwrw dal yn eitha da.
Y Pen & Wig
Eto, dyw hyn ddim yn dafarn cwrw
crefft yn benodol, ond mae wastad dewis da ar gael, ac mae’n haeddu ei lle yma
oherwydd y “tap takeovers” misol maent yn trenfu.
Mae’r Pen & Wig yn boblogaidd
gyda myfyrwyr a gweithwyr swyddfa, ac mae ganddo un o erddi cwrw gorau
Caerdydd, sy’n ardderchog ar ddiwrnod braf!
Porters
Dyma bar gwahanol, gyda theimlad
tanddaearol. Eto, nid tafarn cwrw crefft yw Porters, ond mae wastad dewis da
gyda nhw – gan gynnwys dewis gwych o boteli. Yn aml mae Glamorgan ar dap, sy’n
dda iawn. Yn syml, dyma tafarn diddorol gyda llawer o bersonoliaeth, ac amryw o
ddigwyddiadau difyr.
Comments
Post a Comment