Skip to main content

Digwyddiadau Cwrw Mis Hydref yng Nghymru

Ar ol mis Medi brysur o ran cwrw yng Nghymru, mae mis Hydref hyd yn oed yn well! Dyma rhestr o ddigwyddiadau:

Hydref 4 – Small Bar Caerdydd yn dathlu ei benblwydd cyntaf
Detholid o gyrfau arbennig, gan gynnwys Walker, Wild Beer co. a To Øl.

Hydref 4 – Tiny Rebel tap takeover yn y Pen & Wig, Caerdydd
Mae’r bragdy gwych o Gasnewydd yn cymryd dros y tafarn poblogaidd hwn yng Nghaerdydd am y noson.

Hydref 6/7 – Small Bar Caerdydd – Track Brewing tap-takeover
Detholid da o gyrfau o’r bragwyr o Fanceinion. Yn cynnwys stout imperialaidd, a chwrw sur.

Hydref 6/7/8 – Gwyl Cwrw Caerfyrddin
40 o gyrfau gwir, gan gynnwys llawer o Gymru. Cynhaliwyd yn St Peter’s Civic Hall, Nott Square, Caerfyrddin.

Hydref 6, 13, 20 & 27 – Oktobeerfest ym Mragdy PIPES
4pm to 7pm pob nos Wener trwy Hydref, gan gynnwys nifer o gyfrau ag ysbrydolir gan yr Almaen.

Hydref 7 – Bragdy PIPES Bar Agored
Dewch i Fragdy PIPES rhwng 12yh a 10yh i flasu rhai’i gwrw gwych. Yn cynnwys dwy gwrw newydd.

Hydref 7 – Taith Cwrw Gwir yr Eryri
Taith bws trwy’r Parc Cenedlaethol yr Eryri yn ymweld a nifer o dafarndai lleol gwych, gan gynnwys yr Awstralia ym Mhorthmadog – tap y Bragdy lleol y Mws Piws!

Hydref 7 – Sadwrn Bwyd y Stryd – Bragdy Tomos a Lilford
Yn cyflwyno cwrw newydd – “Cwrw Hopys Werdd Cymreig” – bragwyd gyda hopys lleol. Bwyd gan y Bearded Taco. Bar yn agor am 1yh.

Hydref 11 – Wetherspoons yn Shotton Flintshire
Cyfle i gwrdd a bragwr o Brains – amser i’w gadarnhau.

Hydref 12 – St Canna’s Alehouse -Tap takeover gan Fragdy Lines
Yn cychwyn am 7yh yn unig dafarn meicro Caerdydd, mae y fragdy wych Lines, o Gaerffili, yn arddangos nifer o’i chyrfau ardderchog, gyda staff gerlaw i ateb cwestiynau.

Hydref 11 i 14 – Oktoberfest 2017 yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd
Oriau: 5yh tan 11yh ar Ddydd Mercher a Dydd Iau, 4yh i 12.30yb ar Ddydd Gwener a 12yh tan 12yb ar ddydd Sadwrn. Pedwar diwrnod o kolch, schwarzbier ac weissbier – beth mwy gallech chi gofyn?

Hydref 20 tan 22 – Brewdog Caerdydd - Collabfest 2017
Bydd Brewdog Caerdydd yn partneri gyda bragdy lleol i lawnsio cwrw unigryw newydd. Mi fydd y bragdy yn cael ei chyflwyno cyn bo hir.

Hydref 21 – Taith Cwrw Gwir Wrecsam
Taith bws o gwmpas Wrecsam a’i gylch, yn cynnwys nifer o dafarndai gwych yn y dref sy’n enwog am fragu.

Comments