Ar ddiwedd mis Awst, gwariais cwpl o ddiwrnodau yng Ngorllewin Cymru. Er roedd hyn ond yn trip byr, ymwelais a nifer o lefydd dda, felly penderfynais ysgrifennu amdanyn nhw ar y blog. Dyma rhai o’r uchafbwyntiau!
Wright’s Food Emporium, Llanarthne
Dyma un o’r uchafbwyniatau’r taith. Mae Wright’s wirioneddol gwerth ymweld a. Café/deli gyda dewis eang o gaws, cigoedd a pethau eraill, sy’n cynnig bwyd dda iawn a detholiad gwych o gwrw – o fragdai lleol ac o rai o ser y byd cwrw crefft rhyngwladol, megis Mikkeller o Ddenmarc.
O ran cwrw Cymreig, roedd cwrw ar gael o Tenby Brewing, Gepiel, Wild Horse, Bluestone ac eraill. Roedd hefyd cwpl o gyrfau da ar dap, gan gynnwys cwrw gan The Kernel – bragdy bychan o Lundain.
Os rydych chi’n teithio tuag at Gaerfyrddin, baswn yn sicr yn argymhell detour bach i Wright’s.
Mae rhai son bod cynlluniau ar gyfer safle yng Nghaerdydd, gyda ffocws ar win. Gobeithiaf fod hyn yn wir (a gobeithiaf bydd cwpl o gyrfau ar gael hefyd!)
The Ginhaus Deli, Llandeilo Diwrnod arall, deli arall. Eto,
detholiad gwych o gaws a chig, gyda dewis eang o gin. Dwi’n hoff iawn o’r ddeli hon… Mae’r
tu-fewn yn atgoffa fi o selar gwin (mewn ffordd dda!), ac roedd ganddi awyrgyll
swynol iawn yn y noswaith dan olau cannwyll. Dim cwrw ar dap, on dewis da o gwrw mewn
caniau a photeli, gan gynnwys cynyrch gan 4Four, Otley a Bluestone ymsyg
eraill. Dyle unrhyw daith i Landeilo cynnwys
ymweliad i’r seren bach hon. Deli gwych.
The Angel Hotel, Llandeilo Dyma tafarndy croesawgar a diddorol,
llond cymeriad. Mae nifer o stafellau o gwmpas y tafarn, pob un gyda
phersonoliaeth unigryw. O ran cwrw, dewis da o gwrw Cymreig, gan
gynnwys Gower a’r brand newydd adferwyd Celt. Mae gan y tafarn hwn cynhesrwydd
hen-fyd, sy’n gwneud e’n boblogaidd ymysg pobl lleol a thwristiaid hefyd. SandBar, Tenby Wel am dafarn bach anhygoel! Lleolwyd
mewn buarth bach oddi ar Upper Frog St, dyma bar bach smart gyda décor modern,
diwydiant ysgafn. Tap y bragday ar gyfer bragdy lleol
gwych Tenby Brewing Co, sy’n cynnig dewis ardderchog o gwrw lleol yn o gystal a
detholiad da iawn o boteli Cymreig a Phrydeinig, yn cynnwys Crafty Devil,
Otley, Heavy Industry, Arbor ac eraill. Dyma bar a chegin cwrw crefft gwych… Yn
fy marn i – un o’r goreun yng Nghymru!
Comments
Post a Comment