Ar ddiwedd mis Awst, gwariais cwpl o ddiwrnodau yng Ngorllewin Cymru. Er roedd hyn ond yn trip byr, ymwelais a nifer o lefydd dda, felly penderfynais ysgrifennu amdanyn nhw ar y blog. Dyma rhai o’r uchafbwyntiau! Wright’s Food Emporium, Llanarthne Dyma un o’r uchafbwyniatau’r taith. Mae Wright’s wirioneddol gwerth ymweld a. Café/deli gyda dewis eang o gaws, cigoedd a pethau eraill, sy’n cynnig bwyd dda iawn a detholiad gwych o gwrw – o fragdai lleol ac o rai o ser y byd cwrw crefft rhyngwladol, megis Mikkeller o Ddenmarc. O ran cwrw Cymreig, roedd cwrw ar gael o Tenby Brewing, Gepiel, Wild Horse, Bluestone ac eraill. Roedd hefyd cwpl o gyrfau da ar dap, gan gynnwys cwrw gan The Kernel – bragdy bychan o Lundain. Os rydych chi’n teithio tuag at Gaerfyrddin, baswn yn sicr yn argymhell detour bach i Wright’s. Mae rhai son bod cynlluniau ar gyfer safle yng Nghaerdydd, gyda ffocws ar win. Gobeithiaf fod hyn yn wir (a gobeithiaf bydd c...
A bilingual blog that discusses craft beer, especially Welsh craft beer. Follow on twitter:
https://twitter.com/yblogcwrw
Blog dwyieithog sy'n trafod cwrw crefft, yn enwedig cwrw crefft Cymreig. Dilynwch ar drydar:
https://twitter.com/yblogcwrw