Skip to main content

Y tarfarndai gorau yng Nghaerdydd ar gyfer cwrw crefft

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, cyhoeddwyd rhestr o’r 10 tafarndai gorau yng Nghaerdydd ar gyfer cwrw crefft. Mae Walesonline hefyd wedi cynhyrchu cwpl o restrau tebyg, ond wrth gwrs mae rhestrau fel hyn yn dod yn goroedol wrth i rai barrau cau tra i rai eraill agor.

Pwrpas y post hwn yw i roi math o “arweinlyfr” diweddar ynglŷn â thafarndau cwrw crefft yng Nghaerdydd. Rwyf wedi penderfynu i beidio rhestru nhw mewn trefn penodol, neu i gynfyngu’r rhestr i ond 10, oherwydd mae’n bwysig i geisio dangos y sefyllfa cwrw crefft llawn.

Dros y blynyddoedd diwetha, dwi wedi ymweld â nifer o ddinasoedd yn y D.U., Ewrop a chwpl yng Ngogledd America. Dwi wirioneddol yn credo bod Caerdydd yn cymharu’n dda iawn i ddinasoedd eraill o ran cwrw crefft, ac yn sefyll allan fel un o’r goreuon yn Ewrop.

Cyn dechrau, un nodyn:
Does dim siopau ar y rhestr. Mae nifer o siopao potel gwych yng Nghaerdydd, ond ffocws y post hwn yw tafarndau a barrau.


St Canna's Alehouse
Tafarn newydd sy’n barod yn hynod o boblogaidd, lleolwyd o fewn y chwarter cwrw crefft sy’n datblygu yng Nhreganna. Dyma tafarn-meicro cyntaf yng Nghaerdydd. Mae’n lle diddorol a chroesawgar. Mae dewis amrywiol o gwrw casg a barilan sy’n newid yn wythnosol, felly dyma lle gwych i drio rhywbeth newydd. Mae’r tafarn yn arbennigo mewn cyrfau o Gymru, yn aml yn cynnwys Pipes, Tiny Rebel, Tenby, Grey Trees, Lines, Well Drawn, Bluestone, Mumbles, Kingstone, Mad Dog a llawer mwy!


Mae gan St Canna’s un o’r landlordiaid mwyaf cyfeillgar yng Nghaerdydd. Mae gan y tafarn ci bach hwyl hefyd. Dyma tafarn cynnes a swynol gyda rhwybeth gwahanol ar bob ymweliad. 


Crafty Devil's Cellar
Dyma bar arall yng ngorllewin y dinas yn Nhreganna. Dyma rhywle angenreidiol i ynweld os rydych chi’n hoff o gwrw crefft. Yn gwreiddiol, siop potel gyda bar blasu oedd y tafarn, ond mae wedi esblygu dros amser i fod yn bar gyda bach o siop. Dyma tafarn cynnes gyda dewis da o gwrw lleol, sy’n fel arfer yn cynnig un neu ddau cwrw gwest hefyd. Mae amryw gwych o botelau a chaniau. Dyma lle dda i ddarganfod rhywbeth newydd.

Mae cwrw Crafty Devil yn wastad o safon uchel, gyda
Safe as Milk (stout), Mikey Rayer All Dayer (pale ale) and You Love Us (American IPA) yn opsiynau da.

Tiny Rebel
Dyma bragdy a thafarn arloesol Cymreig. Y tap-y-bragdy ar gyfer bragdy cwrw crefft Cymreig cyntaf yng Nghaerdydd, gyda enw gwreiddiol “Urban Taphouse”. Lleolwyd o fewn adeilad coch hardd cyferbyn Stadiwm Principality, dyma bar pwysig ar unrhyw daith cwrw crefft o gwmpas. Mae llwyddiant y bar hwn wedi arwain at ail dafarn yn ninas cartrefol Tiny Rebel – Casnewydd – a bar bach ym mragdy newydd y cwmni yn Rogerstone. Mae gan yr adeiliad llawer o gymeriad gyda digonedd o le.

Mae wastad gan Tiny Rebel dewis cryf o gwrw casg a barilan gyda nifer o gyrfau gwest. Mae cwrw Tiny Rebel yn dda iawn, fel dangosir gan cyn-pencampwr Prydain Cwtch.


Brewdog
Jyst lan yr heol o Tiny Rebel, does dim wir angen cyflwyno Brewdog. Mae bar Caerdydd y bragwyr crefft o’r Alban yn 3 mlwydd oed ac yn hynod o boblogaidd.

Yn aml mae’r bar yn cynnal “tap-takeovers” gan fragdai eraill, a mae’r rhestr o gyrfau yn wastad yn esblygu gyda chyrfau diddorol ac arloesol. O stowts cryfion, i IPAs llond hopys, o gyrfay sur i lagers glan a phur, mae gan Brewdog rhywbeth i bawb, gan gynnwys yr yfedwr mwy anturus!

Bragdy Pipes
Mae Bragdy Pipes yn sefydliad unigryw o fewn y dinas. Lleolwyd yn ardal Pontcanna, mae’r bragdy yn cynnal digwyddiadau “bar agored” yn fisol yng nghwrt y bragdy– ac yn fwy aml dros yr haf. Gyda amryw eang o gyrfau ar gael, o stowts cyfoethog i lagerau ffresh, dyma lle da i drio cyrfau gwahanol. Er nad yw hon yn lleoliad parhaol, mae’n haeddu ei lle ar y rhestr.

Mae uchafbwyntiau yn cynnwys Bohemian Pilsner, cwrw sur y Pineapple Weisse, a’r Californian Pale, ymysg nifer o gyrfau gwych arall.


Y Cambrian Tap
Dyma tap y bragdy ar gyfer cangen crefft y cawr mawr Brains. Bydd rhai yn teimlo nad yw hon yn “lleoliad cwrw crefft go iawn”, ond ar y cyfan mae’r cwrw yn dda ac mae’n dafarn bach croesawgar. Er bod Brains yn “fragdy mawr” erbyn heddiw, mae ei gwreiddiau yn lleol, ac yn wir mae’r bragdy’n gyfystyr a Chaerdydd. Lleolwyd yn agos at galon cwrw crefft Caerdydd (sef Westgate St), dyma lle da i ymweld am un neu ddau peint.

Mae dewis da o gwrw Brains Craft ar gael gyda rhai cyrfau gwest ar gael hefyd. Mae goreuon Brains Craft yn cynnwys Barry Island IPA, Boilermaker (American IPA) ac Atlantic White Witbier. 

Y Lansdowne
Tafarn gymunedol hyfryd yn ardal Treganna. Mae’n werth teithio allan o ganol y dinas jyst i ymweld a’r dafarn hon! Dyma hen dafarn sydd wedi cael bywyd newydd gyda pherchenogwyr newydd (sydd hefyd yn berchen ar y Grange yn Grangetown).

Mae yna math o swyn hen ffasiwn syml i’r dafarn hon. Mae’n cynnig bwyd gwych yn o gystal a chwrw bendigedig. Fel arfer mae gyrfau lleol ar gael o Pipes a Crafty Devil, ac amryw o dapiau sy’n newid, gyda chwrw o Gymru a thu hwnt ar gael. Rydym yn angen mwy tafarndau cymunedol fel y Lansdowne. 

Y City Arms
Dyma tafarn gwobrwyol sy’n berchen i Brains, ond yn cynnig llawer mwy o gyrfau na tharfandai eraill Brains. Dyma tafarn clasurol Caerdydd – ffefryn personol ar ddiwrnod rygbi personol – mae’n dafarn o oes Fictoriaidd sydd wedi cadw ei phersonoliaeth.

Tafarn poblogaidd ar y “scene” cwrw go iawn am nifer o flynyddoedd… Hynod o dda i ymweld, yn enwedig ar ddiwrnod rygbi.

Smallbar
Seren bach newydd yng nghanol Caerdydd. Sefydlwyd ychydig dros flwyddyn yn ol, ond yn barod yn hynod o boblogaidd. Gyda 32 o dapiau rydych chi’n sicr o weld dewis eang, gyda’r diod-len yn cynnwys dewis o gwrw sur, tywyll, lager, pale/IPA a “crazy shit”(!)

Mae rhywbeth i bawb yma, a mae’r cyfeintiau bach (traean, hanner a dwy draean) yn annog chi i drio sawl cwrw mewn ymweliad. Yn aml yn cynnig dewis da o gwrw Cymreig yn o gystal a chyrfau da o Loegr, gyda Left Handed Giant yn nodweddol.

Hopbunker
Hopcraft/Pixie Spring Brewery sy’n perchen y dafarn danddaearol hon. Mae dewis enfawr o gyrfau ar gael, o Gymru a gweddill y DU. Mae’n hawdd gweld pam fo Hopbunker wedi ennill nifer o wobrau CAMRA ers agor ychydig blynyddoedd yn ol. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys cyrfau Hopcraft (wrth gwrs) ac unrhywbeth gan Waen (sy’n cynhyrchu ym mragdy Hopcraft).

Lleolwyd yn cynd-clwb y Barfly, mae’r lleoliad tanddaearol Hopbunker yn creu awyrgylch diddorol a gwahanol.

Canolfan Celfyddyd Chapter
Dyma tafarn Treganna arall gyda detholiad newidol o gwrw Prydeinig. Dyw hyn ddim yn dafarn cwrw crefft per se, ac i ryw raddau mae wedi cwympo tu ol i St Canna’s a Crafty Devil yn Nhreganna, ond mae’n bar digon da tybeth. Mae ganddo detholiad eitha da o boteli, sy’n werth nodi.


Y Mochyn Du 
Dyma arwr o dafarn ymysg cymuned Cymry Cymraeg Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae’n cynnig nifer o opsiynau gwych o ran cwrw crefft Cymreig, gan gynnwys Grey Trees, Pipes a Gower. Yn mis Ionawr bydde’n ail agor o dan rheolaeth newydd fel “brewpub”.

Bydd rhaid aros i weld pa effaith bydd hyn yn cael, ond gobeithiaf bydd y Mochyn yn cadw ei hunaniaeth Cymraeg.

I grynhoi, tafarn cyfeillgar sy’n gynnes yn y gaeaf, ac yn braf yn ystod y haf.

Zerodegrees
Rhan o gadwyn o brewpubs ar draws Prydain, sy’n gynnig dewis o gwrw a fragwyd ar y safle. Efallai bach llai o gymeriad na thafarndai eraill ar y rhestr hon – er bod tu allan yr adeilad yn hynod o hardd. Wedi dweud hynny, mae’r cwrw dal yn eitha da.

Y Pen & Wig
Eto, dyw hyn ddim yn dafarn cwrw crefft yn benodol, ond mae wastad dewis da ar gael, ac mae’n haeddu ei lle yma oherwydd y “tap takeovers” misol maent yn trenfu.

Mae’r Pen & Wig yn boblogaidd gyda myfyrwyr a gweithwyr swyddfa, ac mae ganddo un o erddi cwrw gorau Caerdydd, sy’n ardderchog ar ddiwrnod braf!

Porters 
Dyma bar gwahanol, gyda theimlad tanddaearol. Eto, nid tafarn cwrw crefft yw Porters, ond mae wastad dewis da gyda nhw – gan gynnwys dewis gwych o boteli. Yn aml mae Glamorgan ar dap, sy’n dda iawn. Yn syml, dyma tafarn diddorol gyda llawer o bersonoliaeth, ac amryw o ddigwyddiadau difyr.



Comments

Popular posts from this blog

Wales reaches 100 Breweries - the full list

For the first time since probably the 1930s, Wales now has over 100 active breweries. The last decade has seen a dramatic increase in the number of Welsh micro-breweries, with growth outstripping all other parts of the UK apart from London . Over the past couple of years, it has regularly been predicted that Wales would soon break the 100 brewery barrier, with 88 independent breweries recorded in 2015 . It now appears that we have reached that landmark figure. Below, we have listed all the active breweries in Wales – giving a total of 115. Four of those breweries are not yet brewing commercially (denoted by *). However, even discounting those 4 companies still leaves a total of 111 breweries operating in Wales. The geographic footprint of the breweries is impressive, with every local authority area in Wales (yes, all 22) having at least one brewery! In terms of size and scale, the list is very diverse – including long-standing giant Brains alongside newly established micro

Welsh Beer Review of 2017

As we approach the end of 2017 it seems like a good time to reflect upon the year. We've seen an exciting year of change on the Welsh beer scene and it would be impossible to capture every single development here. With that in mind, I've decided to list a few of the highlights below: Tiny Rebel First of all we start with arguably Wales’s biggest craft brewery, Tiny Rebel.  It’s been a big year for the Newport brewers, moving into a state of the art new premises in Rogerstone, enabling a significant expansion in production and the development of an onsite bar and brewery tours.  A slight down-note for Tiny Rebel has been the recent case involving the branding of their Cwtch beer. However, an optimist would note the significant publicity and exposure the brewery has received off the back of this episode… In spite of this recent blip, there’s no doubt that 2017 has been a great year for Tiny Rebel. Grey Trees The awards have been pouring in for the Aberdare br

100 Beers from Wales you must try: 21-30

Here is the third post in this series, taking us through numbers 21 to 30... 21. Otley - O1 Sadly, Otley closed in early 2018, so there are only a few bottles of this award winning beer floating around. If you get a chance - try it before it’s gone! It’s a great beer with a nuanced aroma of hay, honey and bitter hops. A well balanced palate which is moderately bitter. Refreshing and very drinkable!  22. Bragdy Twt Lol - Glo in the Dark Bragdy Twt Lol is one of my favourite breweries. I could’ve selected any of half a dozen beers for this list but have gone with Glo in the Dark, which is Dark Ale. Rich roasted malt and coffee on the nose are followed by a surprisingly bitter palate driven by hops, which gives an unexpected kick to the beer, which retains a malty sweeteners in the background. An innovative and interesting beer which executes that difficult skill of pleasantly surprising the drinker.  23. Lines - Pale Ale Lines is a relatively new brewery but with a good heritage, h